'ALI & AVA' at Newport Memorial Hall
'ALI & AVA' at Newport Memorial Hall
Share this event
A 'Pay What You Feel' community screening:
ALI & AVA
95 mins | 15
Directed by Clio Barnard
📅 18 December 2026
🕡 6.30pm
📍 Newport Memorial Hall
🎟️ Pay What You Feel
As part of Spotlight, WOW Film Festival is building a new network of community film clubs across Wales, working with local partners and venues to bring independent and international cinema closer to home.
Following our first screening of THE TOLL, we're delighted to return to Newport Memorial Hall with ALI & AVA, a warm, funny and deeply moving British love story about two people finding an unexpected connection.
Both lonely for different reasons, Ali and Ava meet through their shared affection for Sofia (6), the child of Ali’s Slovakian tenants, whom Ava teaches. Ali finds comfort in Ava’s warmth and kindness and Ava finds Ali’s complexity and humour irresistible. Over a lunar month, sparks fly and a deep connection begins to grow. However, the legacy of Ava’s past relationship and Ali’s emotional turmoil at the breakdown of his marriage begins to overshadow their newfound passion.
Enveloped in music and imbued with humour, ALI & AVA is a compelling contemporary love story written & directed by BAFTA-nominated Clio Barnard (The Arbor, The Selfish Giant, Dark River).
Full of warmth, humour and an infectious soundtrack, it's a film that celebrates human connection and reminds us that it's never too late for a new beginning.
Join us at Newport Memorial Hall for an evening of independent cinema, discover a new film community and pay what you feel.
Your contribution helps support accessible community cinema and the development of future screenings.
About Spotlight
The BFI Film Audience Network (FAN) Spotlight programme invests in all eight hub regions across the UK, taking a hyper-local approach to areas where there are otherwise few or no screenings of UK independent or international film.
Working in three-year cycles, a lead delivery partner works with locally based film organisations to establish new community-driven screening activities and learning opportunities, helping projects continue into the future.
In Wales, WOW Film Festival is leading this initiative, working with local partners such as Cwm Arian to develop community film activity in venues and communities across the country.
Find out more about the Spotlight partners and projects in Wales:
Arts Council of Wales — Film Hub Wales Spotlight funding
Supported by Film Hub Wales as part of the BFI Film Audience Network (FAN), made possible by the National Lottery.
__________________________________
Dangosiad cymunedol 'Talwch yr hyn a deimlwch':
ALI & AVA
95 munud | 15
Cyfarwyddwyd gan Clio Barnard
📅 18 Rhagfyr 2026
🕡 6.30pm
📍 Neuadd Goffa Trefdraeth
🎟️ Talwch yr hyn a deimlwch
Fel rhan o Spotlight, mae Gŵyl Ffilm WOW yn datblygu rhwydwaith newydd o glybiau ffilm gymunedol ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid a lleoliadau lleol i ddod â sinema annibynnol a rhyngwladol yn nes at ein cymunedau.
Yn dilyn ein dangosiad cyntaf o THE TOLL, rydyn ni wrth ein bodd yn dychwelyd i Neuadd Goffa Trefdraeth gydag ALI & AVA, stori garu Brydeinig gynnes, ddoniol a theimladwy am ddau berson sy'n dod o hyd i gysylltiad annisgwyl.
Mae Ali ac Ava, ill dau'n unig am resymau gwahanol, yn cyfarfod drwy eu hoffter cyffredin o Sofia (6), merch tenantiaid Slofacaidd Ali, sy'n cael ei haddysgu gan Ava. Mae Ali yn cael cysur yng nghynhesrwydd a charedigrwydd Ava, tra bod Ava yn cael ei swyno gan bersonoliaeth gymhleth a hiwmor Ali.
Dros gyfnod o fis lleuad, mae'r sbarc yn tanio rhyngddynt ac mae cysylltiad dwfn yn dechrau datblygu. Fodd bynnag, mae effaith perthynas flaenorol Ava a'r cythrwfl emosiynol y mae Ali yn ei brofi wrth i'w briodas chwalu yn dechrau taflu cysgod dros eu cariad newydd.
Yn llawn cerddoriaeth a hiwmor, mae Ali & Ava yn stori garu gyfoes afaelgar, wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Clio Barnard, sydd wedi'i henwebu am wobr BAFTA (The Arbor, The Selfish Giant, Dark River).
Yn llawn cynhesrwydd, hiwmor a cherddoriaeth heintus, mae'n ffilm sy'n dathlu cysylltiadau dynol ac yn ein hatgoffa nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau o'r newydd.
Dewch draw i Neuadd Goffa Trefdraeth am noson o sinema annibynnol, dewch yn rhan o gymuned ffilm leol a thalwch yr hyn a deimlwch.
Mae eich cyfraniad yn helpu i gefnogi sinema gymunedol hygyrch a datblygu rhagor o ddangosiadau yn y dyfodol.
Am Spotlight
Mae rhaglen Spotlight Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) yn buddsoddi ym mhob un o wyth rhanbarth canolfannau ledled y DU, gan fabwysiadu dull hyperleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gyfleoedd, neu ddim cyfleoedd o gwbl, i weld ffilmiau annibynnol o’r DU neu ffilmiau rhyngwladol.
Gan weithio mewn cylchoedd tair blynedd, mae partner cyflawni arweiniol yn gweithio gyda sefydliadau ffilm leol i sefydlu gweithgareddau sgrinio cymunedol a chyfleoedd dysgu sy’n cael eu harwain gan gymunedau, gan helpu’r prosiectau hyn i barhau i’r dyfodol.
Yng Nghymru, Gŵyl Ffilm WOW sy’n arwain y fenter hon, gan weithio gyda phartneriaid lleol fel Cwm Arian i ddatblygu gweithgareddau ffilm gymunedol mewn lleoliadau a chymunedau ledled y wlad.
Dysgwch fwy am bartneriaid a phrosiectau Spotlight yng Nghymru:
Cyngor Celfyddydau Cymru — cyllid Spotlight Film Hub Wales
Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.
Location
Newport Memorial Hall, SA42 0TF