Gweithdy Barddoniaeth Ecffrastig gyda Sian Northey
Bydd y bardd a'r llenor Sian Northey yn arwain y gweithdy yma yn ymateb i weithiau celf yn ein arddangosfa agored ar y thema 'Gofod'. Mae'r arddangosfa yn llawn gwaith celf gan dros saith deg o artistiaid, felly mae digon o amrywiaeth i sbarduno eich ymateb creadigol. Bydd Sian Northey yn eich tywys trwy'r broses o lunio ymateb mewn geiriau i rai o'r gweithiau hyn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ysgrifennu barddoniaeth, dim ond parodrwydd i arbrofi a mwynhau gwneud cysylltiadau rhwng y celf gweledol a'r gelfyddyd geiriol.
Mae'r gweithdy yma yn rhan o'n prosiect 'Peintio gyda Geiriau' o dan nawdd Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn gweithredu polisi 'talu fel y gallwch chi' ar ddigwyddiadau fel hyn, i sicrhau bod ein profiadau yn fforddiadwy i bawb. Gallwch ddewis talu £8.50, £10.50 neu £12.50 am y gweithdy hwn.
Cymraeg fydd iaith y gweithdy hwn.
Bydd cyfle i rhannu eich gwaith, ac i glywed cerddi ac ymatebion pobl eraill yn ystod y noson meic agored ar yr 2il o Fai.
Location
Plas Brondanw, LL48 6SW