Noson Meic Agored / Open Mic Night
Mae croeso i unrhyw un ddod
ac unrhyw ddarn o waith i'w berfformio yn y noson hon, sydd wedi ei
threfnu fel rhan o'n prosiect 'Peintio gyda Geiriau' gyda chefnogaeth
Llenyddiaeth Cymru. Mae croeso mawr i bobl fu'n rhan o'r gweithdai
barddoniaeth ecffrastig i ddod i rhannu cynnyrch y gweithdai, sy'n
ymateb yn benodol i'r arddangosfa agored ar y thema 'gofod', ond os
oes gynnoch chi gân neu gerdd neu sgets neu fonolog neu berfformiad
o unrhyw fath yr hoffech chi ei rhannu o flaen cynulleidfa caredig a
chefnogol, dewch ac ô. Does dim rhaid i chi fod yn ymateb i'r thema
'gofod' ond os hoffech chi greu rhywbeth yn unswydd, byddai hynny'n
fendigedig. Mae croeso i chi gyflwyno eich cyfansoddiad yn unrhyw
iaith. Mae hefyd croeso i chi ddod i wylio a chefnogi heb
berfformio, wrth gwrs.
Bydd diodydd meddal a gwin ar gael ar y noson, pris tocyn yw £7
Anyone is welcome to come
with any piece of work to perform on this evening, which has been
organized as part of our 'Painting with Words' project with the
support of Literature Wales. People who have been part of the
ekphrastic poetry workshops are very welcome to come and share the
products of the workshops, which specifically respond to the open
exhibition on the theme of 'space', but if you have a song or poem or
sketch or monologue or performance of any kind that you would like to
share in front of a kind and supportive audience, come and have a go.
You don't have to be responding to the 'space' theme but if you would
like to create something specifically, that would be wonderful. You
are welcome to present your composition in any language. You are, of
course also welcome to come and watch and support without
performing.
Soft drinks and wine will be available on the
night, ticket price is £7
Location
Plas Brondanw, LL48 6SW