Gweithdai Creadigol i Famau - Sesiwn 2
Cyfle i ddod at ein gilydd i fynegi a phrosesu rhai o’r teimladau a’r heriau sy’n codi yn ystod beichiogrwydd ac wrth fagu plant. Defnyddiwn sgwennu creadigol, collage, a darlunio i gychwyn yr ymarfer o gadw journal er mwyn hybu lles a iechyd meddwl da.
Cynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg. Croeso mawr i ddysgwyr a siaradwyr newydd.
Croeso i chi ddod a’ch plant (hyd at flwydd oed) efo chi. Croeso i famau ar unrhwy gyfnod o'u taith.
Arweinir gan yr awdur, actores a mam, Melangell Dolma ar ran cwmni theatr Crombil.
Mae'r gweithdai am ddim, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw. Darperir panad!
Wedi cefnogi gan Celfyddydau Cymunedol Gwynedd
Location
Plas Brondanw, LL48 6SW