Fforwm Twristiaeth Dyffryn Nantlle
Sut gall y diwydiant ymwelwyr weithio'n well i'r gymuned leol yn Nyffryn Nantlle?
Dyna mae criw o ymchwilwyr cymunedol yr ardal yn gobeithio ei ddysgu drwy gynnal sgwrs efo'r gymuned, ac mi hoffem eich gwahodd i ymuno yn y sgwrs.
Mae'r fforwm yn rhan o brosiect ymchwil Dolennu, sy'n gywaith rhwng ymchwilwyr academaidd ym Mhrifysgol Manceinion a chriwiau o ymchwilwyr cymunedol mewn pedwar dyffryn llechi. Mae'r prosiect, a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi y DU, yn archwilio ac ymchwilio i ffyrdd newydd a thecach ar gyfer twristiaeth. Os hoffech wybod mwy, ewch i:foundationalalliance.wales/community-research-network.html neu bit.ly/dolennu neu ebostiwch post@yrorsaf.cymru.
Location
Yr Orsaf, Penygroes, LL546LP