Sgyrsiau Hwyrach - 'Ar Gerdded: Carneddi a Gwlana'
Cyflwyniad o ddau brosiect sydd naill ai ar y gweill, neu wedi cyflawni, sy'n ymwneud a thirwedd ac yn benodol, cerdded tirwedd. Wedi ddilyn gan sgwrs ar y thema yna, gan dynnu ar y gwaith da ni'n drafod.
Mae Grug Muse yn fardd, golygydd, perfformiwr ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac yn y Weriniaeth Tsiec, cyn cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n un o olygyddion a sylfaenwyr Cyhoeddiadau'r Stamp. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, ac enillodd merch y llyn (Cyhoeddiadau’r Stamp 2021) gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Bydd cyfieithiad o'r gyfrol yn cael ei gyhoeddi yn 2027 gyda Broken Sleep Books. Yn 2025 cyhoeddodd Croesi - Cyfandir ar ddwy olwyn (Y Lolfa), cyfrol yn son am ei thaith ar draws gogledd America ar feic yn 2016. Perfformwyd ei drama fel 'Annwfn' gan Theatr Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las, 2026.
Mae Iestyn Tyne yn llenor, yn gerddor ac yn olygydd; mae'n byw ym mhentref Waunfawr ac yn gweithio o Stiwdio Cadnant yng Nghaernarfon. Mae'n un o griw Cyhoeddiadau'r Stamp ac yn Fardd y Dre Caernarfon. Rhyddhaodd ei albym cyntaf, y casgliad cysyniadol Carneddi, y llynedd, ac enillodd ei lyfr diweddar ar y bardd Prosser Rhys, Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni, gategori ffeithiol greadigol Llyfr y Flwyddyn eleni. Bu'n un o Gymrodorion Cymru'r Dyfodol rhwng 2023 a 2025, ac yn dderbynydd Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis ar gyfer 2025-27, sy'n galluogi iddo weithio ar ddilyniant Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni.
The event will be held in Welsh but translation is available, please note when keeping a spot if you'll need it.
An introduction to two projects, either underway or already completed - that relate to the landscape and involve walking. This is followed by a discussion on the theme, drawing upon the excellent work we share.
Grug Muse is a poet, editor, performer, and researcher from Dyffryn Nantlle. She studied politics at the University of Nottingham and in the Czech Republic, before completing a doctorate at Swansea University. She is a co-founder and editor of Cyhoeddiadau’r Stamp. She has published two poetry collections, and 'merch y llyn' (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2021) won the poetry category of the 2022 Wales Book of the Year award. A translation of the collection is set to be published in 2027 by Broken Sleep Books. In 2025, she published 'Croesi – Cyfandir ar ddwy olwyn' (Y Lolfa), a book recounting her 2016 cycling journey across North America. Her play, 'Annwfn', was performed by Theatr Cymru at the 2026 Eisteddfod y Garreg Las.
Iestyn Tyne is a writer, musician, and editor; he lives in the village of Waunfawr and works from Stiwdio Cadnant in Caernarfon. He is a member of the Cyhoeddiadau'r Stamp team and serves as the Town Poet of Caernarfon. He released his debut album—the conceptual collection 'Carneddi'—last year, and his recent book about the poet Prosser Rhys, 'Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni', won the Creative Non-fiction category at this year’s Wales Book of the Year awards. He was a 'Future Wales Fellow' (Cymrodor Cymru'r Dyfodol) from 2023 to 2025, and is the recipient of the Saunders Lewis Memorial Scholarship for 2025–27, which enables him to work on a follow-up to 'Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni'.