Fractured Union, Professor Michael Kenny
Mon 29 Apr 2024 6:00 PM - 7:30 PM
Main Hall, International Politics, Aberystwyth University, SY23 3FE
Description
This description is presented in English and Welsh. For the English version, please scroll down.
'Fractured Union', Yr Athro Michael Kenny
Yn rhan o’n cyfres newydd o ddigwyddiadau ar Ddyfodol Cyfansoddiadol, rydym yn croesawu'r Athro Michael Kenny, Cyfarwyddwr Sefydliad Bennett ar gyfer Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caergrawnt.
6-6.30 derbyniad diodydd
6.30-7.30 Darlith
Bydd yn trafod ei lyfr newydd, 'Fractured Union' sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn dybryd o oroesiad y Deyrnas Unedig, pwnc sydd bellach ar flaen y gad o ran gwleidyddiaeth Prydain.
Mae'r llyfr hwn yn datgelu gwreiddiau argyfwng heddiw, gan ddatgelu tybiaethau ASau a gweision sifil yn eu dealltwriaeth o'r Undeb, a phesimistiaeth ddwys o fewn gwleidyddiaeth am ei hyfywedd tymor hir.
Fractured Union, Professor Michael Kenny
As part of our new series of events on Constitutional Futures, we welcome Professor Michael Kenny, Director of the Bennett Institute for Public Policy at Cambridge University.
6-6.30 drinks reception
6.30-7.30 Seminar followed by Q&A
Professor kenny will be discussing his new book, 'Fractured Union’ which addresses the pressing question of the United Kingdom’s survival, a topic now at the forefront of British politics.
This book uncovers the roots of today’s crisis, revealing MPs’ and civil servants’ assumptions in their understanding of the Union, and profound pessimism within politics about its long-term viability.
Fractured Union description (the Welsh description can be found below)
The question of the United Kingdom’s survival, once taken for granted, looms large in British politics. This book uncovers the roots of today’s crisis, revealing MPs’ and civil servants’ assumptions in their understanding of the Union, and profound pessimism within politics about its long-term viability.
Why has the political class struggled to engage productively with devolution? Has English voters’ disenchantment with a detached central government influenced how politicians and bureaucrats regard the UK’s future? How have seismic events fuelled tensions between Westminster and devolved administrations, from the SNP’s election and independence referendum to Brexit and Covid? And what now?
Fractured Union offers a vivid account of the gradual loss of British unity, illuminating the forces and pressures now shaping the future of both nations and peoples. As nationalism rises across Scotland, Wales, Northern Ireland and England, this book issues a sharp challenge to those who believe in a united kingdom: deliver better, more responsive government—or risk the UK falling apart.
Further information: https://www.hurstpublishers.com/book/fractured-union/
Fractured Union disgrifiad
Mae'r cwestiwn am oroesiad y Deyrnas Unedig, rhywbeth a oedd yn cael ei gymryd yn ganiataol o’r blaen, yn un pwysig iawn yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae'r llyfr hwn yn datgelu gwreiddiau argyfwng heddiw, gan ddatgelu tybiaethau ASau a gweision sifil yn eu dealltwriaeth o'r Undeb, a phesimistiaeth ddwys o fewn gwleidyddiaeth am ei hyfywedd tymor hir.
Pam mae'r dosbarth gwleidyddol wedi ei chael hi'n anodd ymgysylltu'n gynhyrchiol â datganoli? A yw siomedigaeth pleidleiswyr o Loegr â llywodraeth ganolog ddatgysylltiedig wedi dylanwadu ar sut mae gwleidyddion a biwrocratiaid yn ystyried dyfodol y DU? Sut mae digwyddiadau seismig wedi sbarduno tensiynau rhwng San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig, o refferendwm annibyniaeth ac etholiad yr SNP i Brexit a Covid? A beth nawr?
Mae Fractured Union yn cynnig disgrifiad byw o golli undod Prydain yn raddol, gan egluro’r grymoedd a'r pwysau sydd bellach yn siapio dyfodol cenhedloedd a phobloedd. Wrth i genedlaetholdeb gynyddu ar draws yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, mae'r llyfr hwn yn cyhoeddi her lem i'r rhai sy'n credu mewn teyrnas unedig: mae angen cyflwyno llywodraeth well, fwy ymatebol—neu bydd perygl y bydd y DU yn chwalu.
Rhagor o wybodaeth: https://www.hurstpublishers.com/book/fractured-union/
Location
Main Hall, International Politics, Aberystwyth University, SY23 3FE