Skip to main content
  • Dehongli'r Dyffryn: Llwybrau'r Merched
1 of 3

Dehongli'r Dyffryn: Llwybrau'r Merched

Sat 21 Sep 2024 10:30 AM - 11:30 AM Pete's Eat's, 38-40 High St, Llanberis, Caernarfon LL55 4EU

Dehongli'r Dyffryn: Llwybrau'r Merched

Sat 21 Sep 2024 10:30 AM - 11:30 AM Pete's Eat's, 38-40 High St, Llanberis, Caernarfon LL55 4EU

Need help?

Manage tickets

Mae ‘Dehongli’r Dyffryn: Llwybrau’r Merched’ yn daith gerdded ryngweithiol fydd yn edrych ar y profiad benywaidd o fyw yn Nyffryn Peris yn ystod oes aur y diwydiant llechi.

Mae dylanwad y diwydiant llechi yn drwm ar ddyffryn Peris ond wrth bori trwy lyfrau hanes a lluniau o’r cyfnod buan iawn y gwelwch mai nodi cyfraniad y dynion i’r diwydiant a wneir gan amlaf. Rwy’n grediniol mai dim ond trwy chwilio a gwrando ar leisiau gwragedd, gweddwon, merched a chwiorydd y chwarelwyr y mae modd gwneud cyfiawnder â hanes y bröydd llechi.

Yn ystod y daith mi fydda i'n adrodd hanes llond llaw o ferched a hynny mewn lleoliadau a fu’n arwyddocaol yn ystod eu bywydau. Unigolion digon cyffredin oedden nhw i gyd yn y bôn - ond mae cofnod hanesyddol ohonynt wedi goroesi am eu bod wedi ymddwyn yn ‘anghyffredin’ neu’n groes i ddisgwyliadau eu hoes ar ryw bwynt yn eu bywydau. Dw i eisiau annog y rheiny sy’n ymuno â’r daith i roi eu hunain yn esgidiau’r rhai sy’n cael eu trafod - ac i ddilyn yn ôl eu traed yn llythrennol.

///// PWYSIG - mi fydd testunau sensitif fel hunanladdiad ac iselder yn cael eu trafod yn fanwl ar y daith. ///// 

This is a Welsh language event exploring the hidden lives of Victorian women in Llanberis. 

Location

Pete's Eat's, 38-40 High St, Llanberis, Caernarfon LL55 4EU